Skip to content

Folders and files

NameName
Last commit message
Last commit date

Latest commit

 

History

184 Commits
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Repository files navigation

Sgwrsfot ar gyfer Macsen

Dyma'r elfen sgwrsfot ar gyfer Macsen - meddalwedd cynorthwyydd personol digidol rydyn ni’n defnyddio i ddatblygu technoleg lleferydd a deallusrwydd artiffisial Cymraeg - sydd yn adnabod bwriad o fewn testun ac sy'n ymateb gydag ateb ac/neu ddata i alluogi Macsen i ymateb yn gywir ac yn ystyrlon.

Dyma enghraifft o'i ddefnydd:

Beth fydd y tywydd yfory ym Mhwllheli?

https://localhost:5455/perform_skill?text=Beth+fydd+y+tywydd+yfory+ym+Mhwllheli%3F

{
  "intent": "beth.fydd.y.tywydd", 
  "version": 1, 
  "success": true
  "result": 
    [
      {
        "url": "", 
        "title": "Dyma tywydd yfory gan OpenWeatherMap ar gyfer Pwllheli.",
        "description": ""
      }, 
      {
        "title": ""      
        "description": "Yfory am 9 o'r gloch yn y bore bydd hi'n bwrw glaw a'r tymheredd fydd 8 gradd Celsius.", 
        "url": "", 
      }, 
      {
        "title": ""
        "description": "Yn hwyrach yfory am hanner dydd bydd hi'n bwrw glaw a'r tymheredd yn 9 gradd Celsius.", 
        "url": "", 
      }
    ], 
}

Defnyddir hybrid o lyfrgelloedd adnabod bwriad cod agored Padatious ac Adapt gan MyCroft.ai, yn ogystal a cydrannau ieithyddiaeth Cymraeg.

Mae'r sgwrsfot yn medru adnabod sawl bwriad (neu dymuniad) o bump sgil (neu parth). Gwelir y sgiliau yn:

https://github.com/techiaith/macsen-sgwrsfot/tree/master/server/assistant/skills

Gwelir bwriadau pob sgil o fewn eu is-ffolder intent. e.e.

https://github.com/techiaith/macsen-sgwrsfot/tree/master/server/assistant/skills/spotify/intents

Mae'r ffolderi intents yn cynnwys data ar gyfer hyfforddi Padatious ac Adapt.

Llwytho i lawr a gosod y sgwrsfot

Bydd angen cyfrifiadur gyda docker (https://www.docker.com/get-started) wedi'i osod arno eisoes. Bydd angen i chi drefnu allweddi API eich hunain i'r gwasanaethau allanol canlynol:

A'u rhoi mewn ffeiliau apikey.py o fewn is-ffolder yn y sgil berthnasol.

Diolch i docker, mae'r proses gosod popeth arall yn hawdd iawn. Agorwch ffenestr 'Terminal' ar eich cyfrifiadur, ac o fewn ychydig iawn o orchmynion bydd y sgwrsfot yn rhedeg ar eich system:

$ git clone https://github.com/techiaith/macsen-sgwrsfot.git
$ cd macsen-sgwrsfot
( ... rhoi ffeiliau apikey.py i fewn ...)
$ make mysql
$ make build
$ make run

About

Cydran adnabod bwriad a sgwrsfot yr ap Macsen // Intent parser and chatbot component for the Macsen app

Topics

Resources

Stars

4 stars

Watchers

3 watching

Forks

Releases

Packages

Used by

Contributors

Languages